top of page

/

CATRIN FINCH - NOTES TO SELF

Fydd Catrin Finch yn rhyddhau Notes to Self, gyfres o draciau myfyriol a phersonol newydd y mae hi wedi'u chyfansoddi ar gyfer Katy, hi ei hun yn 13 oed, a'i halbwm cyntaf o gyfansoddiadau unigol mewn degawd, ar 27 Chwefror 2026.

 
Gyda llythyrau cysylltiedig yn tanlinellu myfyrdod dwfn ei thaith bersonol, mae Notes To Self yn plethu ei phrofiadau, ei hemosiynau a'i myfyrdodau at ei gilydd. Trwy ei cherddoriaeth, mae hi'n archwilio themâu o fregusrwydd, disgwyliad, trawsnewidiad ac anrhagweladwyedd bywyd sy'n cael ei chwarae allan o dan lygad y cyhoedd. Mae pob cyfansoddiad yn tynnu ar ei gorffennol; gyrfa 40 mlynedd fel un o artistiaid mwyaf anturus ac arloesol ei chenhedlaeth. Mae ei gonestrwydd a'i dewrder parhaus yn atseinio, gan wahodd gwrandawyr i gysylltu'n ddwfn â'i stori, wrth iddi droi ei brwydrau a'i llwyddiannau i sain. Nid yn unig y mae Notes To Self yn arddangos esblygiad Catrin fel cerddor, ond mae hefyd yn nodi gyrfa nodedig a luniwyd gan ei phrofiadau fel menyw hoyw, goroeswr canser, chwaer, merch a mam.

 

Mae Notes To Self yn gam i mewn i ddimensiwn creadigol newydd i'r delynores ryfeddol hon, y mae ei gyrfa'n cymryd troeon newydd gyda phob prosiect newydd.

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

Rhag-archebwch Notes To Self nawr yma.

Vinyl-Record-Mockup-Notes-To-Self.jpg
CD-Mockup-Notes-To-Self.jpg
bottom of page