top of page
FTR_Tour Graphics_Landscape.jpg

Freedom To Roam

“yn llawn potensial cyffrous...hyfryd”

Y Guardian

Cerddorion rhyngwladol o’r safon uchaf yn cyflwyno “profiad gwbl mesmeraidd o ansawdd rhagorol lle mae dylanwadau Affricanaidd, Celtaidd ac Indïaidd yn cyduno fel ffiwsiau clasurol gyda cherddoriaeth werin, gyda jyst awgrym o gerddoriaeth electronig” [Folk Radio UK].

Ymunir ag arweinydd y prosiect Freedom To Roam, y ffliwtydd Eliza Marshall, gan gyd-ysgrifenwyr yr albwm Catrin Finch, Jackie Shave a Dónal Rogers yn ogystal â gwesteion arbennig yn cynnwys Kuljit Bhamra MBE a Robert Irvine.

Yn erbyn cefndir fideo syfrdanol gan y dylunydd fideo adnabyddus Amelia Kosminsky, byddant yn chwarae’r albwm Freedom To Roam yn ei gyfanrwydd yn dilyn sgriniad o’r ffilm ddogfen sy’n cydfynd â’r albwm gan y cyfarwyddwr aml-arobryn Nicholas Jones (A Greenlander, You Are Here). Ysbrydolwyd y prosiect gan ddyhead am dosturi byd-eang a pharch tuag at natur - a’r sylweddoli mai ni yw natur, a bod yr hyn sy’n effeitho un ohonom yn ein heffeithio ni i gyd.

FTR_Tour Graphics.jpg
bottom of page